Ap Cwtsh
Myfyrio a Meddwlgarwch drwy gyfrwng y Gymraeg
I’r rhai ohonoch sydd yn awyddus i gychwyn ymarfer myfyrio adref, mae ap cwtsh ar gael i’ch cychwyn ar y daith i ddod i adnabod eich hun ychydig yn well.
Mae’r ap yn cynnwys 3 myfyrdod o dan arweiniad:
Oriau Man y Bore – myfyrdod 8 munud o hyd i’ch helpu i ddeffro a chroesawu’r diwrnod sydd o’ch blaen
Mwya’r Brys, Mwya’r Rhwystr – myfyrdod 6 munud o hyd i’ch gwreiddio nol yn y presenol yn ystod diwrnod prysur
Cael Wil i’w Wely – myfyrdod estynedig 20munud o hyd i’w wneud pan hoffech fymryn o gymorth i syrthio i gysgu
Mae opsiynau llais benywaidd/gwrywaidd ar gyfer pob myfrydod ynghyd ag opsiynau sain cefndirol (gan gynnwys cerddoriaeth hyfryd wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr ap gan DnA).
I bobl sydd eisiau datblygu eu myfyrdod i ymarfer heb arweiniad, mae amserydd i’w gael gyda’r un opsiynau sain cefndirol.
I lawrlwytho’r ap, cliciwch ar y logo uchod neu ewch i http://apcwtsh.cymru
Os y byddwch yn cael blas arni ac awydd canfod dosbarthiadau yoga/myfyrio trwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol i chi (ynghyd a disgyblaethau eraill megis tai chi), mae cyfeirlyfr ar gael ar wefan Ap Cwtsh.
Mae’r ap bellach o dan ofal Menter Iaith Abertawe, ond os y bydd ganddoch unrhyw gwestiynau ynghylch y myfyrdodau neu sut i ddatblygu eich ymarfer ymhellach, mae croeso i chi anfon ebost ata i arĀ yogalaura@hotmail.co.uk
Dyma erthygl am ddatblygiad ap cwtsh a gyhoeddwyd gan Parallel Cymru.