Dosbarthiadau Yoga Wythnosol

Nos Fawrth / Tuesday Evening, 5:30-6:30pm – Neuadd Pontyberem / Pontyberem Hall

Yoga – This class is suitable for beginners, however the ability to bear weight on hands and knees, as well as to move comfortably from floor based positions to standing, is necessary.

Bore Mercher / Wednesday morning, 9:45-11:00am – Salon Y Beudy, Pontyberem

Yoga – Dosbarth grŵp bach / a specialised small group class ensuring pplenty of attention for each individual. Cofrestru fesul bloc yn unig / Block bookings only. 

Bore Iau / Thursday morning, 10:00am-11:00am – Neuadd Pontyberem / Pontyberem Hall

Yoga Cadair / Chair Yoga – Great for anyone experiencing restrictions in mobility for any reason and at any age. A combination of physical movements, breathing exercises, meditation and relaxation.

Bore Gwener / Friday morning, 9:45-11:00am – Salon Y Beudy, Pontyberem

Dynamic Flow Yoga – Dosbarth grŵp bach / a specialised small group class ensuring plenty of attention for each individual. This class is perfect for people who like a dynamic and challenging physical practice. Cofrestru fesul bloc yn unig / Block bookings only. 

Os hoffech chi gysylltu gyda mi i drafod y dosbarthiadau, dyma’r manylion: laurakaradog@gmail.com / 07596 627252

Cysylltu

Ffioedd, Telerau & Amodau

Ffi – Mae ffïoedd yn amrywio yn ôl lleoliad, hyd a chynnwys y dosbarth. Plis nodwch nad oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd, ond efallai y gellir eu trosglwyddo i ddosbarth wythnosol arall os oes lle a chyda fy nghytundeb. 

Consesiynau – Rwyf yn awyddus i fy nosbarthiadau yoga fod yn agored i bawb. Mae consesiynau ac opsiynau i dalu fesul tipyn ar gael i bobl ar incwm isel neu sy’n ddi-waith. Plis cysylltwch am fanylion.

Cofrestru – Oherwydd fod y dsobarthiadau yn rai bychan, mae cofrestru’n hanfodol ar gyfer bob dosbarth. Os yw’r dosbarth yn llawn, byddaf yn cynnig lle i chi ar restr aros ac yn cysylltu pan fydd lle ar gael.

Presenoldeb – Pan yn cofrestru ar gyfer dosbarth, rwyf yn argymell yn gryf i chi fynychu pob sesiwn. Mae buddianau yoga yn cynyddu dros amser. Gyda phresenoldeb rheolaidd bydd eich ymarfer yn ffynnu.

Iechyd & diogelwch – Nid yw pob ymarfer yn addas i bawb. Gall yoga ac unrhyw ffurf arall o ymarfer arwain at anaf os nad ydych yn ymarfer yn ofalus ac o fewn eich terfynau personol. Os ydych chi’n delio gyda salwch neu anaf, mae gofyn i chi gael caniatad eich meddyg cyn mynychu unrhyw ddosbarth. Mae pob disgybl yn gyfrifol am ei iechyd a’i les ei hun yn ystod dosbarthiadau.