Yoga a’r Chwyldro Tawel Mewnol

In Uncategorized @cy by Laura Karadog

 

YOGA A’R CHWYLDRO TAWEL MEWNOL

Un gair yr wyf wedi dod yn ymwybodol o’i glywed fwyfwy dros yr wythnosau diwethaf ydi radical. Er bod traddodiad gwleidyddol radical cryf i’w ganfod yn lled ddiweddar yn hanes Cymru, mae’n air sydd wedi mynd allan o ffasiwn yn rhyfeddol a gellir dadlau, bron, yn tabŵ. Efallai bod y gair radical yn cael ei gysylltu ym meddyliau pobl gydag eithafiaeth a diffyg parch at reolau a threfn ac felly’n rhywbeth nad yw’n addas i’n bywydau modern, trefnus a chyfalafol. Pwy a ŵyr? Ond beth bynnag, rwy’n falch iawn o weld radical yn gwneud ailymddangosiad. Does ryfedd, wrth gwrs, o ystyried y llanast gwleidyddol, ecolegol a chymdeithasol llwyr yr ydym ni ynddo ar y foment. Mae angen dôs go dda o radicaliaeth i’n cael ni allan o’r twll presennol a pharodrwydd i edrych yn greadigol ar ffyrdd arloesol o drefnu cymdeithas a gwleidyddiaeth er ein lles ni a’r blaned.

Efallai mai yoga ydi’r peth olaf y byddai rhywun yn ei gysylltu gyda’r gair radical a gallaf ddeall pam. Yn ei ffurf Orllewinol bresennol, mae Mcyoga yn was ffyddlon iawn i’r system ryddfrydol-gyfalafol – y stiwdios drud, y dillad ymarfer ffasiynol a’r enciliau moethus mewn lleoliadau ecsotig. Gwelwn yoga a mindfulness yn cael eu cynnig mewn swyddfeydd ac ysgolion fel ateb i bwysau gwaith cynyddol ac amodau gwaith annymunol. Ac, yn dilyn cynhadledd glodfawr ddiweddar yn Llundain a agorwyd gan neb llai na Thywysog Cymru, mae’n edrych yn debyg fod yoga ar ei ffordd i mewn i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol hefyd. Mae hyn oll yn cyfrannu at ddiwydiant sydd yn creu biliynnau o bunnoedd bob blwyddyn.

Rwan ta, fel athrawes yoga, efallai y byddai disgwyl imi fod yn llawn mawl a gwerthfawrogiad o ddatblygiadau o’r fath. Ac mi ydw i – i raddau a chydag ambell i gafeat go fawr.

Y cafeat mwyaf sydd gen i yw’r gwrthwynebiad i’r modd y mae Mcyoga, a bellach hefyd ei chwaer, Mcmindfulness, yn cael ei werthu a’i drin fel math o opiwm cymdeithasol i dawelu a dofi’r werin, a hynny drwy lastwreiddio, camddehongli neu hyd yn oed anwybyddu’r athroniaeth a’r dysgeidiaethau sydd wrth eu gwraidd.

Pan fydd rhywun yn mentro i ddosbarth yoga am y tro cyntaf, efallai y bydd ganddynt ddisgwyliadau ynglŷn â lleihau tensiynau a phoenau corfforol a chanfod ffyrdd o ymlacio a delio gyda stress. Ac os yw’r person hwnnw yn parhau i ymarfer am gyfnod o amser, gwelwn fod yoga heb os nac oni bai yn gallu delifro ar y disgwyliadau yma. Ar ôl ychydig fisoedd o ymarfer gweddol reolaidd, efallai y byddwn yn sylwi ein bod yn dechrau cysgu’n well, yn teimlo’n fwy bodlon yn ein crwyn, yn gallu delio’n well gyda straen bywyd ac yn gyffredinol dawelach ein meddyliau. Ond er bod y canlyniadau yma i gyd yn glodwiw, nid dyma ddiwedd y gân. Mewn gwirionedd, yn nhermau yoga, rydym yn dal ar y pennill cyntaf. Mae’r cytgan a sawl pennill arall eto i ddod, a’u cynnwys yn llawer mwy cyffrous a radical.

Prif bwrpas ac ystyr y ddisgyblaeth a’r traddodiad Indiaidd a elwir yn yoga yw’r daith fewnol, ysbrydol i ddod i wybod a deall mwy amdanom ni ein hunain. Mae’r gair, yoga, ei hun yn cyfleu’r syniad o undod. Heb fanylu gormod ar etymoleg y gair, mae’n deillio o’r ferf Sanskrit yuj sydd yn golygu rhwymo, clymu, cysylltu neu lynu – hynny yw, y syniad o ddod a dau beth ynghyd. Un ystyr i’r gair yoga, felly, yw’r syniad o ail-uno yr elfennau rhannedig ohonom ein hunain – corff, meddwl, enaid – sydd yn ei dro yn dod a ni at sylweddoliad fod pob enaid unigol yn ran annatod o’r  cyfangorff  – y ffrwd ddi-dor o fywyd sydd yn rhedeg trwyddom ni a thu hwnt i ni.

Wrth gwrs, mae llawer mwy o ddyfnder, arlliw a hefyd gwahaniaeth barn o fewn traddodiadau gwahanol, nad wyf yn ei gyfleu yma. Ond, yr hyn yr hoffwn ei bwysleisio yw fod yr undod radical a ddisgrifir uchod yn wrthbwynt clir i’r gwerthoedd sydd yn cael eu dyrchafu a’u poblogeiddio yn ein cymdeithas heddiw.

Os y cymerwn gipolwg sydyn ar y ddrama wleidyddol bresenol yn y DU, gwelwn y gwerthoedd tu hwnt o fyfïol a chyfalafol sydd yn troelli cogiau olwynion y llywodraeth. O edrych tu hwnt i’r llywodraeth ar y twf mewn ffasgiaeth ac eithafiaeth adain dde yn ein cymdeithas, gwelwn fynegiant tywyllach fyth o’r fyfïaeth hon lle mae ofn ac atgasedd o’r “arall” yn arwain at weithredoedd dychrynllyd o dreisgar. Ac mewn cymdeithas sydd yn rhoi platfform i Stephen Yaxley-Lennon chwydu casineb drwy feicroffôn at dorf o wacter eneidiol, nid yw’n syndod fod pobl yn dechrau panicio a gofyn y cwestiwn sydd ar wefusau nifer ohonom – sut allwn ni uno cymdeithas mor ranedig a thoredig? A’r cwestiwn tu hwnt i hynny, efallai, yw pa fath o undod ydym ni’n ei ddeisyfu?

Yn y traddodiad yoga, gelwir y canfyddiad unigol myfïol sydd ganddom ohonom ein hunain yn avidya, sef camddealtwriaeth sylfaenol o pwy ydym ni a’r cysylltiad hanfodol sydd rhyngddom. Y gwrthwyneb i avidya yw vidya sydd yn golygu doethineb a gwybodaeth. Mae vidya yn cyfeirio at ddealltwriaeth o’n hanfod fel pobl ac o’r gwirionedd ein bod i gyd yn gysylltiedig ac yn rhan o’r un gwe sydd yn dal y bydysawd ynghyd.

Mae’r holl ffrydiau gwahanol sydd wedi eu datblygu fel rhan o draddodiad a disgyblaeth yoga yn rhannu’r bwriad o ddad-orchuddio’r gwirionedd yma. Gallwn ystyried elfennau gwahanol y ddisgyblaeth fel jig-sô – gyda phob un o’r darnau yn cyfrannu at ddarlun clir a disglair o’n hanfod fel pobl. I restru dim ond rhai elfennau o draddodiad yoga, mae gweithio gyda’r corff a’r anadl (asana a pranayama), ffrwyno’r synhwyrau a myfyrio (pratyahara, dharana, dhyana) a hunan-archwilio trwy gyfrwng yr athroniaeth a’r ymarfer (svadhyaya), oll yn cydblethu i’n helpu i wireddu ein cyfanrwydd cynhenid. A phan fyddwn yn deffro i’r sylweddoliad yma o’n cyfanrwydd ac o’r undod sydd rhyngddom, mae’n anorfod ein bod yn sgîl hynny yn teimlo rhyddid oddi wrth ein unigoliaeth yn ogystal â synnwyr o berthynas a chyfrifoldeb tuag at ein cyd-ddyn a’r byd o’n cwmpas.

A dyna pryd mae’r gwaith go iawn yn dechrau, oherwydd ar ôl deffro i ddoethineb ein hanfod, does dim troi nôl. Allwn ni ddim dad-weld ar ôl gweld. A gall hynny fod yn beth anodd. Ignorance is bliss ys dywed y Sais, a gallaf ddeall pam fod nifer yn dewis parhau â’u cwest ysbrydol mewn lleoliadau anghysbell i ffwrdd o drwch a sŵn cymdeithas. Ond i mi, ymhell o fod yn llwybr sydd yn ein tynnu i ffwrdd oddi wrth lif y byd a’i bobl, gall yoga a’r doethineb y mae’n ei ddad-orchuddio ein dysgu sut i fyw yn y byd mewn modd medrus, ystyrlon, cariadus a beiddgar. A radical, os leciwch chi.

Dywedodd un o athrawon yoga enwocaf yr ugeinfed ganrif, BKS Iyengar, “Cyn y gallwn ganfod heddwch rhwng cenhedloedd, rhaid yn gyntaf canfod heddwch o fewn y genedl fychan sydd tu mewn i bob un ohonom.”

Darllennais y dyfyniad yma am y tro cyntaf pan oeddwn yn fyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth ar droad y mileniwm, ac mae wedi aros gyda mi ers hynny. Dyma dwi’n ei ddeall ohono – mae macrocosm y byd yn cael ei adlewyrchu yn y meicrocosm sydd tu mewn i bob un ohonom, ac mae’r ddau yn effeithio ar ei gilydd. Heb y gwaith mewnol, fydd y gwaith allanol ddim mor effeithiol. Mae’r chwyldro mewnol o ddod i ddeall a derbyn ein hanfod yn ein maethu gyda’r doethineb a’r gwytnwch i weithio dros newidiadau mewn cymdeithas sydd yn creu a chynnal heddwch.

Yn yr un modd, allwn ni ddim canolbwyntio’n llwyr ar y daith ysbrydol, fewnol heb gydnabod y strwythurau allanol sydd yn rhwystro heddwch a chydraddoldeb – e.e. yr hiliaeth, y rhagfarnau a’r barusder cyfalafol sydd yn gweithio i gadw nifer fechan yn gyfoethog a chyfforddus tra bod y mwyafrif yn dioddef. Mae’r ddwy elfen cyn bwysiced a’i gilydd – y chwyldro mewnol a’r chwyldro allanol.

Ond fel yr awgrymais ar y dechrau, dyw potensial yoga a’r dysgeidiaethau sydd wrth wraidd y grefft hon o fyw ddim i’w clywed yn y drafodaeth bresennol, boblogaidd am yoga a mindfulness. Ac fel athrawes yoga, dwi’n fodlon iawn i dderbyn peth o’r bai am hyn. Pan oeddwn i’n hyfforddi fel athrawes gyda un o’r prif sefydliadau yoga ym Mhrydain bymtheg mlynedd yn ôl, prin iawn oedd y dysgu am wreiddiau athronyddol ac ysbrydol yoga. O ddarllen rhwng y llinellau ar y pryd, y teimlad oedd na ddylem fod yn sôn ryw lawer am hynny yn ein dosbarthiadau gan ei fod o’n gallu gwneud pobl yn anghyfforddus. Y mantra oedd, “Dim ots beth sydd yn denu pobl i yoga yn y lle cyntaf, bydd y practis yn gweithio’i hud a’i ledrith arnynt a byddant yn dod i ddeall gwir ystyr yoga yn y pendraw.” Ac rwy’n credu fod hyn wedi rhoi rhwydd hynt i athrawon yoga i farchnata’r ddisgyblaeth fel pilsen hud ar gyfer corff siapus, cysgu’n well, llai o stress a hapusrwydd. Unrhywbeth i gael pobl i mewn drwy’r drws gyda’r cyfiawnhad y byddant yn sicr o ddod i ddeall gwir ystyr yoga yn y pen draw dim ond drwy ddod i ambell ddosbarth a gwneud yr ymarfer.

Efallai fod hyn yn wir i rai, ond i’r mwyafrif ohonom mae dysgu a dod i ddeall unrhyw bwnc neu faes newydd yn golygu derbyn a deall gwybodaeth newydd. Ac os nad yw’r wybodaeth yna’n cael ei chynnig a’i rhannu gyda ni gan athrawon, wnawn ni ddim dysgu. Felly, os yw dosbarthiadau yoga yn cael eu cyfyngu i ymarferion corfforol i gryfhau, tynhau a llacio’r corff ac ymarferion anadlu i leihau stress, sut mae disgwyl i bobl ddeall a mwynhau potensial chwyldroadol yoga?

Mae’n bryd, felly, i ddechrau gwahodd pobl o’r pwll nofio bas ble mae popeth yn teimlo’n gyfforddus a braf i mewn i’r dyfroedd tyfnach ble mae’n rhaid dysgu sut i nofio. Efallai y bydd hyn yn gwneud pobl yn anghyfforddus. Mae unrhywbeth sydd yn ein gwthio tu hwnt i’n ffiniau cyfforddus ac yn herio’r status quo fel arfer yn gwneud hynny. Ond, gan ei bod hi mor dywyll arnom fel cymdeithas, mae’n rhaid i bethau newid.

A dwi’n teimlo nad ydw i ar fy mhen fy hun yn fy awydd i greu newid. Mae pobl ymhobman i weld yn deffro a sylweddoli na all cymdeithas barhau yn ei ffurf bresennol ac mae gofyn am ymatebion radical. Mae cerrynt o anniddigrwydd ac angerdd yn dirgrynnu o dan wyneb cymdeithas, ac os allwn ni ffrwyno, sianelu a chyfeirio’r egni yma yn ddoeth, gallai greu newidiadau pwerus o fewn ein cymdeithas a’n byd.

Ac yn y sianelu a’r cyfeirio yma yr ydw i’n teimlo fod gan yoga botensial gwirioneddol. Gyda phwyslais yoga ar groywi ein hymwybyddiaeth, a mireinio ein dealltwriaeth ohonom ein hunain a’r byd, down yn bobl fwy cyson, craff a gwydn sydd â’r gallu i ymateb yn addas i unrhyw sefyllfa sydd yn codi – heb guddio oddi wrtho na chwaith or-ymateb. Pwysleisiaf nad yw yoga yn llwybr at droed yr enfys a hapusrwydd bythol neu ryw stad amhosibl o berffeithrwydd. Ond, o sylweddoli, a hefyd ymgorffori, ein hanfod, mae hi’n anodd wedyn gweithredu heb synnwyr greddfol o barch a chariad tuag atom ein hunain, ein cyd-ddyn â’n byd. A dyma dwi’n ei gredu all uno cymdeithas a’n dal ynghyd.

Mae llawer mwy i’w ddweud yma am berthynas yoga gydag athroniaethau eraill a chrefyddau’r byd, ynghyd â diffyg cysylltiad ysbrydol cyffredinol yn ein cymdeithas, trwy ba bynnag lens. Ond mae hwn yn ddigon hir fel mae felly bydd rhaid i hynny aros tan rhywbryd eto!