Bloavezh Mat!

In Teulu, Yoga by Laura Karadog

Bloavezh Mat!

Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Neu Bloavezh Mat yn Llydaweg ble rydw i a’r teulu newydd fod yn treulio wythnos hyfryd yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Os nad ydych chi wedi bod yno, mae Penn ar Bed (Pen y Byd i ni’r Cymry, Finisterre yn Ffrangeg), yn gornel fach hudolus iawn o’r byd. Ac un o fy hoff adegau o’r flwyddyn i fod yno yw misoedd oer a gwyntog y gaeaf ble mae’r traethau hir, tywodlyd yn wag o dwristiaid.

 

Traeth Bae Goulc’hen

Storm Eleanor yn taro traethau Meneham.

Pan fydda i yn Llydaw, dwi’n teimlo’n agos iawn at  rhythmau natur – prin yw’r llygredd golau yno ac felly mae rhywun yn dueddol o godi gyda’r wawr ac encilio i fagddu’r nos. Ac wedi ‘chydig ddyddiau o hyn gallaf bron deimlo fy nghorff yn ochneidio mewn  rhyddhad.

Mae treulio dyddiau cyntaf mis Ionawr yn nghefn gwlad Llydaw hefyd yn ffordd dawel, braf o gychwyn y flwyddyn sydd yn golygu nad ydw i wedi bod yng nghanol y miri o addunedau blwyddyn newydd a phenawdau megis “Make 2018 Your Best Year Yet” a “New Year, New You”.

Un o’r rhesymau pam nad ydw i’n cychwyn fy nosbarthiadau reit ar ddechrau mis Ionawr yw am fy mod i’n hoffi gadael i’r miri flwyddyn newydd ddistewi rhyw fymryn gyntaf. Dwi wastad wedi teimlo’n anghyfforddus gyda’r disgwyliadau sydd yn dod yn sgil addunedau blwyddyn newydd, ac yn fwy anghyfforddus fyth gyda’r marchnata sydd yn bwydo’r disgwyliadau hyn.

Yn bersonol dydw i ddim yn credu mewn gwneud addunedau blwyddyn newydd, ac felly byddai’n teimlo’n anonest i mi geisio gwerthu dosbarthiadau ar sail rhywbeth nad ydwi’n credu ynddo. Wrth gwrs, mae ‘na densiwn yn hyn gan fy mod wrth fy modd yn gweld pobl newydd yn darganfod yoga ac yn datblygu practis sydd o fudd iddynt beth bynnag yw eu gofynion. Ond mae fy neges ym mis Ionawr yr un fath ag yw fy neges yn mis Chwefror,Mawrth, Ebrill, Mai….sef…

Dyw yoga ddim yn ‘quick fix’. Yn yr ‘yoga sutras’, mae Patanjali yn ein hatgoffa fod yoga yn ddisgyblaeth sydd yn ein trawsnewid – yn ein galluogi i glirio’r llwch o’r drych fel y gallwn weld ein hunain yn glir unwaith eto.

Ond er mwyn i hynny allu digwydd, mae gofyn i ni ymarfer yn gyson ac yn ddi-dor dros gyfnod hir o amser er mwyn sefydlu’n hunain mewn yoga. Does dim shortcuts. Ac yn y byd sydd ohoni, ble rydym yn chwilio am atebion sydyn a hawdd, dyw’r neges hon ddim yn boblogaidd. Ond dyma’r gwir.

Y newyddion da ydi nad oes angen i ymrwymo i ddisgyblaeth fod yn rhywbeth sych ac arteithiol. Mae’n hynod bwysig fod ein ymarfer yoga yn rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau ac sydd yn dod a llawenydd i’n bywydau. Heb hynny, bydd y mat yoga, fel yr exercise bike, yn casglu llwch mewn cornel cyn i Ionawr ddod i ben. Er mwyn sicrhau felly fod ein ymarfer yoga yn rywbeth ‘da ni’n ei fwynhau, mae’n hanfodol ein bod yn seilio’n ymarfer ar gariad a pharch tuag atom ein hunain. Yn ymarferol mae hyn yn golygu mwynhau symud y corff heb wthio tu hwnt i’n ffiniau i greu rhyw posture sy’n edrych yn dda; cymryd ein amser i werthfawrogi bob anadl gan sylweddoli nad oes raid i ni ddilyn pace ffrantig y byd; gallu ymollwng i mewn i ymlacio yn savasana am chwarter awr gan wybod fod hyn yn weithred o ofal personol fydd yn dod a budd i ni a’r bobl o’n cwmpas.

Ar y nodyn yna, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i ddosbarthiadau o wythnos nesaf ymlaen a dwi’n edrych ymlaen at weld hen wynebau a wynebau newydd, boed hynny ym Mhontyberem, Llangennech, Caerfyrddin neu mewn sesiwn 1:1. Tan hynny, mwynhewch eich yoga a byddwch yn garedig gyda’ch hun. Da chi’n berffaith yn barod – peidiwch a gadael i neb wneud i chi deimlo fel arall.

Cariad,

Laura x