“How can you know God if you don’t know your big toe?”

In Hatha Yoga, Yoga by admin

“How can you know God if you don’t know your big toe?”

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi ymarfer ac arbrofi gyda sawl arddull a thraddodiad gwahanol o yoga – ashtanga, iyengar, kundalini, anusara, bikram, vinyasa flow, yin, adferol – ac er bod eu dulliau’n gallu ymddangos yn amrywiol iawn, maent i gyd yn y pendraw yn fersiynau o’r un peth, sef ‘Yoga Hatha’.

Yn y system yoga, mae ’Yoga Hatha’ yn derm eang iawn sydd yn disgrifio unrhyw fath o yoga ble rydym yn gweithio yn gyntaf ar gryfhau a phuro’r corff er mwyn ein paratoi i ymgymryd â’r gwaith mewnol dwfn (myfyrdod) fydd yn caniatau i ni gyrraedd yr uchelfannau ysbrydol (samadhi).

Sydd yn dod a ni at deitl y blog yma, dyfyniad gan yr athro BKS Iyengar “How can you know God if you don’t know your big toe?”
A beth bynnag ydi’ch teimlad personol chi am y gair ‘Duw’ (mae hynny’n destun blog arall!) mae datganiad Iyengar yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Triwch eistedd yn llonydd gyda’ch coesau wedi croesi, cefn yn hir a dechrau myfyrio. Bydd cyrff y mwyafrif ohonom yn dechrau grwgnach ar ôl munud neu ddau heb os – cramp mewn troed, cluniau’n teimlo’n stiff, cefn yn dechrau crymu… A dyma ble mae’r symudiadau corfforol, ‘asana’, yr ydym yn eu hymarfer yn dod yn ddefnyddiol. Pwrpas asana yw canfod stad o sthira a sukha yn y corff, neu’r cydbwysedd rhwng ymdrech ac ymollwng.

Mae pob ystum yr ydym yn ei ymarfer yn yoga yn ddawns gyson rhwng y ddwy elfen hon gyda’r nod o gydbwyso ymdrech gyda synnwyr o rwyddineb, heb fod un yn gorchfygu’r llall.

Pan fyddwn ni’n dod at y mat am y tro cyntaf, rydym yn dod a’n patrymau corfforol sydd wedi eu meithrin dros flynyddoedd gyda ni. Mae rhai pobl yn naturiol yn stiff iawn, ac eraill yn naturiol yn or-hyblyg. Fel person oedd fwy ar yr ochr hyblyg o’r spectrwm pan gychwynais wneud yoga, roeddwn yn gweld ymddaliadau oedd yn gofyn i’r corff ymestyn yn hawdd iawn, ac ymarferion oedd yn gofyn i mi ddefnyddio cryfder corfforol yn arbennig o anodd! Rwyf wedi gorfod gweithio’n galed dros y blynyddoedd i ganfod mwy o gydbwysedd yn fy mhractis fel nad ydwyf yn ffafrio un elfen dros y llall.

Hefyd, mae’n rhesymol dweud nad yw arferion corfforol sydd wedi eu datblygu dros ddegawdau yn mynd i gael eu dad-wneud dros nos ar ôl cychwyn ymarfer yoga.

Er enghraifft, os yw person wedi gweithio tu ôl i ddesg ers ugain mlynedd, yna mae’n debygol fod tensiwn wedi cronni yn yr ysgwyddau a’r gwddf, efallai y bydd poen cefn yn broblem achlysurol neu rheolaidd a bydd y cluniau a’r pen-ôl yn debygol o fod yn wan a stiff (Cliciwch yma i ddarllen mwy am sut y gall gormod o eistedd effeithio ar eich iechyd). Bydd y tensiynau hyn yn dod yn amlwg iawn wrth i ni ddechrau symud y corff mewn dosbarth yoga, ac un o’r pethau mae yogis newydd yn ei ddweud yn aml ar ôl eu dosbarthiadau cyntaf yw “Dwi wedi symud rhannau o’r corff doeddwn i ddim yn gwybod oedd yn bodoli!”. Ond dros amser bydd datblygu ymwybyddiaeth o’r corff drwy symudiadau yoga yn helpu i ddadwneud y tensiynau a’r patrymau corfforol sydd wedi datblygu, ac yn ein helpu i ffurfio arferion iachach.

Y peth arall i’w nodi yma yw fod yr holl arddulliau o ‘Yoga Hatha’ y rhestrais ar y dechrau (ashtanga, yin, vinyasa, iyengar, bikram ayb) yn gallu bod yn wahanol iawn i’w gilydd, heb son am yr amrywiaeth rhwng un athro a’r llall. Ac o’r herwydd efallai y bydd yn cymryd ychydig o dreialu cyn darganfod dosbarth neu arddull sydd yn gweithio i chi. Dydw i yn bersonol ddim yn credu fod dim un arddull yn well na’r llall. Os ydi’r hyn yr ydych yn ei wneud yn hybu cydbwysedd a iechyd corfforol a meddyliol, ac yn araf bach yn llwyddo i ddod a chi yn agosach atoch chi eich hun, yna gwych. Os ddim, yna efallai yr hoffech roi cynnig ar rywbeth arall – arddull arall, dosbarth arall, athro arall – i ganfod rhywbeth sydd yn gweithio i chi.

Wrth gwrs, ar ôl canfod rhywbeth sy’n gweithio yna mae ‘na fudd mawr i’w gael o lynu efo fo a’i astudio’n ddyfnach. I nifer o bobl, a fi yn eu mysg, mae hi’n gallu bod yn rhy hawdd i symud fel pili pala o un blodyn i’r llall, yn chwarae ar yr arwyneb heb wir ymrwymo i ganfod y neithder melys yn y dyfnderoedd. Ac fel mewn bywyd, wrth i bethau fynd yn anodd ac yn heriol yn y practis, mae’r demtasiwn i ffoi i’r blodyn lliwgar nesaf yn un byw iawn i nifer ohonom. Ond, wrth aros a gwneud y gwaith caled, wrth ymrwymo o ddifrif i’r hyn mae yoga yn ei ofyn ohonom ni, mae’r darnau gwasgaredig ohonom yn syrthio i’w lle ac mae’r ymarfer ei hun yn dechrau ein trawsffurfio.

Rhannu'r blog