“Mam! Ydy hwn yn yoga?”

In Teulu, Yoga by admin

“Mam! Ydy hwn yn yoga?”

Dyma un o hoff gwestiynau Sisial, fy merch 5 oed, wrth iddi blygu ei chorff i mewn i’r siapiau rhyfedda. A’m ateb bob tro yw ‘Ydi o’n teimlo fel yoga i chdi Sisial?’


Cwestiwn fymryn yn anodd i ferch 5 oed ella, ond dwn i’m chwaith, mae plant bach yn aml yn deall y cyfan dipyn gwell na da ni!
Ond y pwynt yn fama wrth gwrs yw y gall mwy neu lai unrhywbeth fod yn yoga, neu’n yogaidd, os yw’n cael ei wneud gydag ymwybyddiaeth. A gall pethau sydd yn edrych fel yoga fod yn bell o hynny os nad yw’r ymwybyddiaeth yna’n bresenol.
Er enghraifft, os ydych chi’n gwglo “Instagram Yoga” a chlicio ar y lluniau, byddai’n hawdd dod i’r casgliad mai dim ond merched blond, tenau yn eu hugeiniau cynnar sydd yn gwneud yoga. Ac mae diwydiant gwerth biliynau o ddoleri wedi ei adeiladu ar y ddelwedd hon. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae yoga hyd yn oed wedi cael ei raglen realaeth ei hun o’r enw ‘Yoga Girls’ – “Om meets OMG when Instafamous yogis clash with yoga Traditionalists on LA’s West Side. Yoga Girls shows the never-before-seen side of yoga in a cutthroat city where the practice can sometimes lead to kicking some serious “asana”.”

OMG yn wir. A dim byd i wneud efo yoga.

Ar y llaw arall, gall rhywbeth mor syml a thorri’r gwair fod yn yogaidd iawn wrth i chi ganolbwyntio ar sŵn y peiriant ac arogl y gwair yn chwyrlio yn yr awyr – gweithgaredd sydd yn uno’r corff a’r meddwl yn y presenol.

Pan ddechreuais i wneud yoga ar ddiwedd y 90au, doedd y diwydiant o amgylch y ddisgyblaeth heb ddatblygu, ac roedd yoga dal yn cael ei weld fel rhywbeth eitha hipiaidd, ac chydig yn od, i wneud. Mae’r gweddnewidiad yn nelwedd y ddisgyblaeth yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf felly wedi bod yn rhyfeddol. Ac i raddau mae hynny i’w groesawu. Dwi’n falch iawn fod mwy a mwy o bobl yn clywed am fuddianau yoga ac yn dod at y mat am y tro cyntaf bob blwyddyn. Mae’n wych fod meddygon a physios yn dechrau argymell yoga i’w cleifion. Ond dwi’n ofni fod nifer o bobl ddim yn dod i yoga oherwydd y ddelwedd boblogaidd o ferched ifanc tenau yn plygu eu cyrff i mewn i siapiau amhosibl yr olwg.

Dwi hefyd yn ofni fod yoga, neu’n hytrach y diwydiant o amgylch yoga, bellach yn un agwedd arall o globaleiddio diwylliant Eingl Americanaidd. Yn hytrach na prynu McDonalds, da ni’n gwario cannoedd ar leggings a chrysau t “Namaste Bitches”, wedi’n hysgogi gan yr addewid ddeniadol y bydd bywyd yn gret os da ni jysd yn gwneud yoga (spoiler – fydd o ddim ond nai gadw hynny at flog arall).

Mae’n fy nrysu gweld athrawon o wledydd amrywiol Ewrop a De America yn dysgu yoga trwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach na’u mamiaith, yn yr ymgais i ennill poblogrwydd. Ac mae’n fy ngwylltio i weld yr elfen wyn, elitaidd o’r ymarfer yn tyfu bob blwyddyn – £4000 o bunnoedd am wythnos o encil yoga yn Costa Rica; hyfforddi fel athro yoga mewn 3 wythnos yn Bali am £3000 (ddim yn cynnwys teithio, bwyd na llety)…

Yn y bôn, yr hyn sydd mor arbennig am yoga yw
1. ei symylrwydd – mae modd gwneud yoga adref yn eich pyjamas, does ddim hyd yn oed angen mat
2. y ffaith fod modd ei addasu i’w wneud yn fuddiol i unrhywun beth bynnag fo’u hoedran, cefndir, rhywedd, anghenion corfforol ayb.

Ond mae’r gwirionedd hardd a syml yma mewn perygl o gael ei golli ymysg yr hype.

Rhannu'r blog