Y broblem gyda “meddwl yn bositif”…

In Yoga by admin

Y broblem gyda “meddwl yn bositif”…

Mewn blog diweddar, soniais ychydig am y marchnata sydd o amgylch yoga. Mae’r fformiwla yn ddigon rhagweladwy erbyn hyn. Dyma’r rysait os ‘da chi isio fo:

Cynhwysion:
Merch ifanc (gwyn a thenau yn ddelfrydol)
+ Golygfa (e.e. traeth, coedwig, machlud)
+ Ystum cymleth i ddenu’r llygaid (e.e. cydbwyso ar ddwylo, coes neu ddwy tu ôl i’r pen)
+ Dyfyniad positif

Canlyniad: Mwy o ddilynwyr ar eich rhwydweithiau cymdeithasol ac, yn y pendraw, y gobaith o fwy o arian.

Er enghraifft:

Mae’r fformiwla yma mor ragweladwy erbyn hyn mae o wedi cael ei ‘spoofio’. Cymerwch 4 munud o’ch bywyd i wylio’r fideo yma, neith o ddim siomi.

Ac mae’n gret ein bod ni’n dechrau chwerthin am hyn, gan fod chwerthin yn arwain at gwestiynu. Ac mae ‘na gwestiynau mawr i’w gofyn – lot gormod i ddelio gyda nhw mewn un blog. Ond mae ‘na un peth yn benodol yr hoffwn ei drafod yma, sef y ffug-addewid y bydd ymarfer yoga rywsut yn trwsio eich problemau ac yn eich gwneud chi’n barhaol hapus.

Wrth gwrs, mae ‘na fuddianau clir yn deillio o ddisgyblaethau holistig, ac ysbrydol, fel yoga. Yn eu mysg y gallu i roi pethau mewn perspectif a dirnad ein meddyliau a’n hemosiynau yn gliriach. Ond, dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i yoga gael ei facdonaldeiddio, mae un neges yn cael ei bregethu’n uchel dro ar ôl tro – MEDDYLIWCH YN BOSITIF.

Dydw i ddim yn meddwl y byddai llawer o bobl yn dadlau yn erbyn y ffaith fod dysgu sut i gael bydolwg mwy optimistaidd yn beth cadarnhaol yn ein bywydau. Ac mae ‘na astudiaethau sydd yn dangos fod y gallu i feddwl yn bositif hyd yn oed yn gallu ymestyn ein bywydau. Ond mae problemau’n codi os yw’n cael ei ymarfer yn eithafol.

Mae hyn wrth gwrs yn wir am nifer o bethau sy’n dda i ni mewn bywyd. Er enghraifft, rydym i gyd yn gwybod fod yfed dŵr yn llesol, ond gall yfed gormod o ddŵr fod yn beryglus i ni. Yn yr un modd, mae angen i ni ystyried sut mae bod yn eithafol optimistaidd yn gallu arwain at beryglon hefyd. Dyma rai problemau sy’n gallu codi o geisio meddwl yn bositif drwy’r amser:

1. Diystyrru emosiynau negyddol, a thrwy hynny, peidio cydnabod sut yr ydym ni wir yn teimlo

Dydy hi jesd ddim yn bosibl i fywyd fod yn gret trwy’r amser. Weithiau mae o. Weithiau dydi o ddim. Mae’r lleian fwdaidd Pema Chodron wedi ysgrifennu’n wych am hyn yn ei llyfr “When Things Fall Apart: Heartfelt Advice for Hard Times”;

“We think that the point is to pass the test or overcome the problem, but the truth is that things don’t really get solved. They come together and they fall apart. Then they come together and they fall apart again. It’s just like that. The healing comes from letting there be room for all of this to happen: room for grief, for relief, for misery, for joy.”

Drwy geisio anwybyddu neu ddiystyrru emosiynau sydd ddim yn bositif, rydym yn rhwystro’n hunain rhag dod i ddeall, a theimlo, y gwirionedd uchod. Un o’r prif bethau sydd yn (gallu) deillio o ymarfer yoga yw’r gallu i sylwi – sylwi ar ein meddyliau, sylwi sut yr ydym ni’n teimlo. Ac yna ystyried beth yw’r ffordd orau i weithredu yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn sylwi arno. Wnawn ni byth ddysgu sut i wneud hyn drwy jesd trio “meddwl yn bositif” trwy’r amser.

2. Mae’n gallu ein harwain i gredu y dylai popeth fod o dan ein rheolaeth ni

Efallai eich bod wedi clywed am y syniadaeth boblogaidd ‘The Law of Attraction’. O’r hyn dwi’n ei ddeall, prif gred yr LOA yw fod y bydysawd yn creu yr hyn yr ydym yn ffocysu’r meddwl arno.

Neu:
Meddwl yn bositif = canlyniadau positif. Meddwl yn negyddol = canlyniadau negyddol.

Mae’r syniadaeth yma bellach yn drwch ymhlith ymarferwyr yoga (yn bennaf yn America, ond fwyfwy ar yr ochr yma i’r Iwerydd hefyd) er nad ydy’r ddwy athroniaeth yn gydnaws â’i gilydd yn fy marn i. Mae athroniaeth yoga wedi’r cyfan yn ein dysgu nad oes ganddom ni reolaeth dros bopeth sy’n digwydd i ni, dim ond ein gweithredoedd ein hunain a’r ffordd yr ydym yn dewis ymateb i bethau.

Beth bynnag, efallai mod i ddim yn gwybod digon am y ‘Law of Attraction’ i’w feirniadu, ac efallai ei fod wedi bod o fudd i nifer o bobl mewn gwahanol ffyrdd (er dwi’n cwestiynu defnyddio’r LOA i ofyn am gar crand). Ac efallai hefyd fod yr athronaieth ‘chydig yn fwy cymleth na’r hyn dwi wedi ei ddisgrifio uchod, ond beth bynnag am hynny, mae ‘na berygl ei fod o’n arwain pobl i gredu fod popeth o fewn ein rheolaeth os ydym ni ond yn dysgu sut i sianelu’r meddwl.

Os yw hyn yn wir, yna beth sy’n digwydd pan nad yw pethau yn troi allan fel oeddem ni wedi ei ddymuno a’i ddeisyfu? Ddyliem ni feio’n hunain? “Petawn i ond wedi gallu meddwl yn fwy positif…”??

Mae’r ‘Law Of Attraction’ hefyd yn ein hannog i amgylchynu’n hunain gyda phobl bositif er mwyn creu mwy o bositifrwydd yn ein bywydau. Ond beth mae hyn hefyd yn gallu ei greu yw’r siambrau echo mae cymaint o son amdany nhw ar hyn o bryd. Mae perygl i ‘bobl bositif’ yn y cyd-destun yma gael ei ddehongli fel “dim ond pobl sydd yn cytuno gyda ni”, neu gwaeth, “dim ond pobl sydd yr un fath a ni”.

3. Mae’n gwneud i ni orffwys ar ein rhwyfau.

Yr agwedd yma sydd yn fy mhoeni i fwyaf. Dwi’n credu fod ‘na ochr sinistr iawn i’r annogaeth ‘ma i ‘feddwl yn bositif’ sef yr ymgais i reoli a thawelu pobl rhag iddynt ddechrau cicio’n erbyn y tresi (fel “thoughtcrimes” Orwell yn ‘1984’). Er enghraifft, mae ‘na esiamplau o fusnesau yn defnyddio hyfforddwyr hapusrwydd i helpu eu staff i feddwl yn bositif yn ystod prosesau ad-drefnu, neu wrth gyflwyno torriadau cyflog.

Ac mae’r ochr dywyllach yma hefyd i’w ganfod yn y diwylliant o amgylch yoga – dydi yogis ddim i fod i feirniadu a dyda ni ddim chwaith i fod i feddwl na dweud pethau negyddol. Yn hytrach ‘da ni fod i daenu carthen o ‘love and light’ dros bopeth ac mi fydd hynny yn sicr o wneud bob dim yn well. Dyma esiampl o eithafiaith y meddylfryd yma y des ar ei draws ar y we:

Mae’r dyfyniad yn perthyn i Joel Osteen, ‘televangelist’ dadleuol o Texas sydd wedi ei gysylltu gyda Donald Trump. Tybed os oedd y person wnaeth roi llun yoga ochr yn ochr â’r dyfyniad yma yn ymwybodol o hyn? Ond beth bynnag am hynny, mae’r geiriau yma yn bell iawn o’m dealltwriaeth i o yoga.

Fel rhywun sydd wedi cael fy magu a’m haddysgu i feddwl yn feirniadol am bethau, sgil sydd wedi ei feithrin ymhellach drwy ymarfer yoga, mae un peth wir yn fy nghorddi sef yr ymgais i wadu’r cyswllt rhwng yoga a realiti y byd o’n cwmpas. A dwi’n bwriadu sgwennu mwy am hyn rywbryd eto gan fod gormod i ddweud yn fama, ond yn gryno iawn, dydi anfon “love and light” (fel arfer drwy gyfrwng rhwydweithiau cymdeithasol) jesd ddim yn ddigon mewn byd lle mae Trump yn arlywydd ac mae rhyfel niwclear yn fygythiad go iawn. Mae angen gweithredu. Ac yn fy marn i, mae hyn yn gwbl gydnaws ag egwyddorion yoga.

Rhannu'r blog